Pethau syml allwch chi neud i helpu

Mae sawl peth y gallwch ei wneud er mwyn cadw’n cefnforoedd a’n bywyd gwyllt yn ddiogel. Gall newidiadau bychan yn eich bywyd o ddydd i ddydd, fod o gymorth mawr.

Dyma rai syniadau ar sut y gallech fod o gymorth:

  • Rhoi sbwriel yn y bin
  • Ailgylchu pan fo modd 
  • Prynu eitemau sydd â llai o ddeunydd lapio amdanynt
  • Ailddefnyddio bagiau plastig neu beidio â’u defnyddio o gwbl
  • Rhoi olew coginio yn y bin, yn hytrach na’i dywallt i lawr y sinc
  • Arbed ynni
    • Prynu bylbiau golau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
    • Peidio â gorlenwi’r tegell
    • Troi goleuadau a theclynnau trydanol i ffwrdd pan nad ydych eu hangen
    • Peidio â gadael pethau megis eich teledu â’ch cyfrifiadur ymlaen heb fod angen
    • Sychu eich dillad yn naturiol, yn hytrach na thrwy ddefnyddio peiriant sychu dillad
  • Plannu coeden a pheidio â gwaredu gwrychoedd - Mae coed a phlanhigion yn darparu bwyd, lloches i nifer o rywogaethau ac yn cynhyrchu ocsigen. Maent yn cynorthwyo i ddarparu aer glanach a gwaredu CO2 o'r atmosffer sy'n cynorthwyo i daclo newid hinsawdd. 
  • Ymunwch ag ymgyrch glanhau traeth leol neu ewch ati i gynnal eich #twominutebeachclean eich hun pan fyddwch ar draeth.

Am gopi, cysylltwch â’r Swyddog ACA.

  

01286 679495