Prosiect Sbwriel Cricieth

O'r cyflwyniad cychwynnol i'r Cyngor Tref, i gyflwyniadau mewn ysgolion, i ryngweithio a rhannu arfer da ar gyfryngau cymdeithasol, roedd y gymuned leol yn rhan elfennol o'r gwaith o'r dechrau. Roedd y prosiect yn anelu i greu ymgyrch hunangynhaliol gyda ffocws ar y gymuned, yn gyrru i gael ateb lleol i’r broblem ysbwriel morol.

Defnyddiwyd methodoleg y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyfer monitro: rhaglen arolygu ysbwriel a glanhau traeth genedlaethol sydd wedi bod ar waith ers dros 20 mlynedd. Cyflwynwyd ardal arolwg ar Draeth Morannedd, Cricieth (SH511379), ac mae monitro rheolaidd wedi digwydd, ynghyd â glanhau nifer fawr o ysbwriel o draethau lleol.

Yn ogystal â'r arolygon a glanhau'r traethau, roedd Cyngor Tref Cricieth a gwirfoddolwyr y prosiect yn awyddus i sefydlu menter a fydd yn annog aelodau'r cyhoedd i dreulio ychydig funudau yn codi ysbwriel ar y traeth, mewn modd ymarferol a rhwydd. Yn dilyn trafodaethau gyda Dylan's, bwyty lleol, prynwyd a lleolwyd gorsaf #2funudtraethglân ar y traeth.

 

Cynhaliwyd trafodaethau rhwng busnesau lleol a gwirfoddolwyr y prosiect i ddatblygu ymgyrch a fyddai nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o'r canfyddiadau hyn, ond yn newid ymddygiadau. Lansiwyd ymgyrch I’r Gwellt a’r Gwelltyn, gan dargedu busnesau ac annog iddynt roi'r gorau i ddefnyddio gwellt plastig untro, neu newid i rai bioddiraddadwy.

Yn dilyn y profiadau, a chasglu arbenigedd a gwybodaeth yr oedd y gwaith hwn yn ei gyflwyno, mae Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn wedi datblygu teclyn prosiect, yn cynnig canllaw systemig i efelychu'r gwaith a gynhaliwyd. Mae'r gwaddol hwn ar gael i unrhyw grŵp neu ardal sydd â'r awydd i ddatblygu prosiect tebyg: gan gael gwared ar ddyblygu a rhannu arfer orau. TECLYN.

Dymuna Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn ddiolch i Gyngor Tref Cricieth, yr holl fusnesau lleol, a'r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth yn ystod y prosiect. Cafodd y prosiect hwn ei gyllido gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Seafish. Isod, mae dolen i ffilm sy'n dogfennu'r gwaith. Crëwyd y ffilm gan Gwenan Griffith. 

Os oes gennych chi unrhyw syniadau am sut i leihau ysbwriel, neu os hoffech gymryd rhan mewn glanhau traethau neu fonitro ysbwriel traethau, gadewch i ni wybod. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, neu cysylltwch â ni ar:

info@penllynarsarnau.co.uk
01286 679 495

Ffilm Prosiect Ysbwriel Cricieth 2017. 

01286 679495