Morwellt Achub Cefnfor

Dolydd Delfrydo

Mae’r DU wedi colli hyd at 90% o’i dolydd morwellt yn y ganrif ddiwethaf, sydd wedi cael canlyniadau negyddol i iechyd a gwydnwch ein systemau arfordirol. Yn 2019, ffurfiodd Prifysgol Abertawe, yr elusen Project Seagrass a WWF-UK gydweithrediad i ddechrau adfer rhywfaint o'r hyn yr ydym wedi'i golli. Ar yr un pryd, dros y chwe blynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain treialon ledled Cymru i ddatblygu dulliau priodol ar gyfer adfer morwellt.

Yma yn Ngogledd Cymru, mae Pen Llŷn a’r Sarnau a’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi ymuno gyda’r partneriaid i gychwyn archwilio sut allwn ddod a’r prosiect cyffrous yma i Ogledd Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu rhaglen waith adfer arfaethedig sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ecolegol gadarn ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan. Mi fydd y gwaith yma hefyd yn adeiladu ar yr holl waith rydym wedi ymgymryd ym Mhorthdinllaen dros y blynyddoedd.

Wrth gymryd rhan yn yr arolwg byr isod fyddwch chi yn helpu ni i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.

Arolwg - Morwellt Achub Cefnfor 

Dolydd Tanddwr

Yn fyd-eang, mae tua 60 o rywogaethau o forwellt, ond dim ond pedair sy’n frodorol i’r DU a dim ond dwy o’r rhain a ystyrir fel ‘gwir’ forwellt. Y rhywogaethau anhygoel yma yw’r unig blanhigion sy’n blodeuo yn y DU sy’n gallu byw a pheillio mewn dŵr môr. Mae ganddyn nhw ddail hir, gwyrdd siâp rhuban a gallant dyfu mewn clytiau bychain ar wahân neu welyau eang dros hectarau mawr. Fel planhigion eraill, maen nhw’n blodeuo, yn datblygu ffrwythau, yn cynhyrchu hadau ac yn cael eu hangori gan rwydwaith o wreiddiau’n rhyngblethu sy’n echdynnu maethynnau o waddod.

Er mwyn i forwellt ffynnu, rhaid iddyn nhw gael llawer o olau a chysgod rhag tonnau a cherrynt. Pan mae’r amodau’n addas, mae’r gwelyau maen nhw’n eu ffurfio’n creu cynefin gwych i fywyd gwyllt amrywiol. Maen nhw’n sefydlogi ac yn ocsigeneiddio’r gwaddod, gan arafu llif dŵr a gwneud yr ardal yn fwy croesawus i rywogaethau eraill. Mae’r dail eu hunain yn darparu arwyneb i fywyd y môr fyw arno, fel anemonïau, hydroidau, chwistrellau môr, matiau môr ac algâu brown, coch a chwrelog. Mae rhai o’r ‘dilynwyr’ prinnach yn cynnwys y slefren fôr goesynnog ryfedd a rhyfeddol gyda’i hymddangosiad sy’n debyg iawn i estron o’r gofod.

Mwy na 40 o weithiau yn rhagor o rywogaethau i'w canfod mewn dôl o forwellt nag ar dywod noeth drws nesaf iddi.

Hefyd mae morwellt yn feithrinfa berffaith i lawer o bysgod, fel y morlas, y penfras a’r lleden dywod, diolch i lefel uchel y cysgod sy’n cael ei ddarparu gan y morwellt ei hun a’r holl fwyd sydd ar gael i bysgod ifanc ei fwyta. Mae rhywogaethau eraill, fel cimychiaid, yn cysgodi yn y gwaddod weithiau hefyd, yn ystod cyfnodau cynnar eu bywyd, a does dim rhaid i chi chwilio’n hir am arwyddion o greaduriaid sy’n cloddio, fel llyngyr y traeth neu datws môr. Hefyd mae crancod meudwyol, anemonïau, pibellbysgod, crancod gleision, cyllyll môr a phob math o falwod môr yn galw’r cynefin amrywiol yma’n gartref.

Mae’n hawdd gweld pam mae’r cynefinoedd cyfoethog yma’n cael eu galw’n ddolydd tanddwr yn aml. Yn union fel y dolydd mwy cyfarwydd ar dir, mae dolydd iach o forwellt yn llefydd gwych i fwynhau amrywiaeth y bywyd gwyllt sydd gennym ni yn y DU.

Caneri’r môr

Yn naturiol, mae graddfa a dosbarthiad morwellt yn newid gyda chylch y tymhorau a’r blynyddoedd. Gall tarfu corfforol ar ffurf stormydd achlysurol ei helpu i gadw’n iach ac yn gynhyrchiol, ond mae tarfu cyson a phwysau ychwanegol gan bobl wedi cael effaith. Yn y 1930au, gwelwyd cyfran sylweddol o forwellt y DU yn marw o glefyd nychu, sy’n ymosod ar y dail ac yn atal ffotosynthesis, gan ladd y planhigyn. Gydag effaith ychwanegol pobl, yr amcangyfrif yw ein bod wedi colli 92% o’n morwellt yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae ymchwilwyr wedi galw gwelyau morwellt yn ganeris y môr – maen nhw’n adlewyrchu iechyd cyffredinol ein moroedd ni ac mae effaith pobl yn dod yn gynyddol glir.

Mae amcangyfrifon yn dangos y gall un hectar o forwellt fod yn gartref i hyd at 80,000 o bysgod a 100,000,000 o infertebrata.

Mae’r bygythiadau’n amrywiol. Mae goferiad maethynnau’n glec ddwbl: mae’n wenwynig i forwellt a hefyd mae’n ysgogi twf mewn algâu sy’n cystadlu yn erbyn y morwellt am ofod a golau. Hefyd mae rhywogaethau estron ymledol yn cystadlu gyda’r morwellt ac, mewn rhai llefydd, mae’n gystadleuaeth maen nhw’n ei hennill. Mae datblygiadau arfordirol yn creu gwaddod sy’n tagu’r gwelyau ac mae niwed gan gadwyni angori, angorfeydd, propelorau a cherbydau lansio yn amlwg hefyd pan mae gweithgarwch mewn cychod yn digwydd. Gall hyd yn oed sathru gan ddefnyddwyr yr arfordir fod yn broblem ar lanw isel.

Carbon glas

Drwy golli morwellt, rydyn ni hefyd yn colli amrywiaeth y rhywogaethau sy’n byw ynddo. Ond mae mwy fyth yn y fantol. Mae gwelyau morwellt yn darparu casgliad llawn o wasanaethau ecosystemau hanfodol. Maen nhw’n hidlo llygredd, yn cylchu maethynnau, yn sefydlogi gwaddod ac yn lleihau erydiad arfordirol. Hefyd maen nhw’n amsugno llawer iawn o garbon ac, oherwydd hyn, maen nhw’n cael eu cydnabod yn gynyddol yn yr ymgais i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd ac yn cael eu hystyried fel ateb naturiol pwysig. Mae gwelyau morwellt yn storio carbon — sy’n cael ei adnabod fel ‘carbon glas’ — mewn dwy ffordd: drwy ffotosynthesis a thrwy ddal a sefydlogi gronynnau o’r golofn ddŵr. Heb darfu arno, gall carbon gael ei gloi mewn gwaddod morwellt am filenia. Felly, mae’n eithriadol bwysig gwarchod y cynefin arbennig yma.

Yn fyd-eang, er mai dim on 0.1% o wely'r môr sy'n forwellt, mae'n cyfrif am rhwng 10-18% o'i storfa garbon flynyddol.

Wrth lwc, mae morwellt yn gadarn ac o gael cyfle, gall adfer. Er nad yw rheoli cynefin yn hawdd yn y môr, mae’n bosib! Mae prosiectau adfer morwellt yn cael eu treialu yn y DU ac mae hadau’n cael eu casglu o safleoedd amrywiol yn barod ar gyfer eu hailblannu i greu dolydd newydd. Mae gwaith arall yn cynnwys edrych ar systemau angori sy’n lleihau effaith corfforol gweithgarwch mewn cychod, ac addysgu pobl am bwysigrwydd morwellt. Er nad yw’r dolydd hyn yn cael eu gweld gan lawer o bobl, mae ganddyn nhw rôl hanfodol i’w chwarae mewn adfer natur yn y môr.

Nid yw safleoedd adfer wedi'u pennu eto, a dyma lle hoffem gael eich cymorth i nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar y cyd. Hoffem yn fawr hefyd ddysgu sut yr hoffech chi ymgysylltu a chymryd rhan yn y prosiect.

Gwybodaeth pellach

Cwestiynau cyffredin

 

01286 679495