Natur am Byth!

Natur am byth! yw prosiect blaenllaw Cymru. Mae'n bartneriaeth rhwng naw elusen amgylcheddol a Chyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn gwarchod rhywogaethau dan fygythiad ac yn ailgysylltu'r cyhoedd gyda'u treftadaeth naturiol. Ar hyn o bryd, rydym ar gam datblygu'r prosiect ac mae'r cam hwn yn para 18 mis. Penllanw'r cam hwn fydd cyflwyno ein cais am nawdd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Mawrth 2023. Os yw'r cais hwnnw'n llwyddiannus, bydd ein cyfnod cyflawni o bedair blynedd yn dechrau ym mis Medi 2023.

Mae Natur am Byth! yn dilyn gwaith tebyg a ariannwyd gan y Loteri yn Lloegr (Back from the Brink) ond mae hefyd yn cynnwys yr amgylchedd morol, sy'n elfen hollbwysig. Mae Species on the Edge yn yr Alban hefyd ar ei gam datblygu. Mae Natur am Byth! yn cynnwys pum prosiect integredig a chwe phrosiect rhywogaeth sengl. 

Un o'r rhain yw'r prosiect Trysorau’r Môr Cymraeg a arweinir gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Bydd ei ffocws ar warchod rhywogaethau morol pwysig sydd dan fygythiad, gan gynnwys Morwellt, y Môr-wyntyll Pinc, Cimychiaid Cochion a'r Wystrys Brodorol. Rydym hefyd ynghlwm ag ymgyrch genedlaethol i wella ansawdd y dŵr ar hyd Arfordir Cymru.

Mae'r gwaith morol yn y ddau brif leoliad ar gyfer Trysorau’r Môr Cymraeg yn cael cymorth:

  • Cydlynydd rhanbarthol Llŷn ac Ynys Môn Alison Palmer Hargrave (Swyddog ACA Pen Llŷn a’r Sarnau)

Arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith Morwellt, Cimychiaid Cochion ac Ansawdd Dŵr.

  • Cydlynydd rhanbarthol Sir Benfro Sue Burton (Swyddog ACA Sir Benfro Forol)

Arweinydd ar gyfer y pecynnau gwaith Môr-wyntyll Pinc a Wystrys Brodorol.

Linciau i wybodaeth ac adroddiadau

Nodyn Gwybodaeth - Ansawdd Dŵr

Llun © Kate Lock, Seasearch

 

 

01286 679495