Grŵp Cyswllt

Penderfynwyd yn fuan gyda’r gwaith o reoli’r ACA y byddai grŵp yr Awdurdodau Perthnasol yn gweithio gyda grwpiau oedd o amgylch y safle ac oedd â diddordeb. Mae hyn yn hynod bwysig am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • Mae’r môr yn chwarae rôl bwysig ym mywoliaeth llawer o bobl
  • Mae llawer o bobl yn defnyddio’r môr fel rhywbeth i’w fwynhau
  • Mae’n amgylchedd hynod anodd i’w reoli
  • Wrth weithio gyda’n gilydd gallwn ddysgu mwy i’r naill a’r llall am yr ardal a rhannu gwybodaeth
  • Mae llawer o arbenigrwydd ymhlith y bobl sydd yn defnyddio’r môr yn rheolaidd

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus yn 1999 a 2000 er mwyn rhoi gwybodaeth a thrafod yr ACA. Yn y cyfarfodydd hyn, roedd yn amlwg bod nifer eisiau cynorthwyo i reoli’r safle. Arweiniodd y trafodaethau hyn at sefydlu Grŵp Cyswllt i gynrychioli cymaint o grwpiau â phosib oedd â diddordeb. Enwebwyd dau aelod o’r cyhoedd i gynrychioli pob grŵp – un ar gyfer gogledd y safle ac un ar gyfer y de. Lle enwebwyd mwy nag un ar gyfer maes penodol, mae un yn brif gynrychiolydd  gydag eraill yn ddirprwy gynrychiolwyr ac yn aelodau cyfatebol o’r grŵp. Erbyn hyn, mae’r Grŵp Cyswllt yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i dderbyn a rhoi gwybodaeth ac i leisio unrhyw bryderon. I gael cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp cliciwch yma. I gael cofnodion cyfarfodydd y Grŵp Cyswllt cliciwch yma.

Grwpiau â Diddordeb a gynrychiolir ar y Grŵp Cyswllt:

  • Pysgota Masnachol
  • Ffarmio
  • Diwydiant
  • Hamdden
  • Pysgota fel Diddordeb
  • Twristiaeth
  • Bywyd Gwyllt
  • Arall
  • Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol
  • Cynghorau Cymuned

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, faterion neu bryderon ynghylch yr ACA, yna a fyddech cystal â chysylltu â’r Swyddog ACA.

01286 679495