Lleihau'r defnydd o blastig un-tro

Llygredd plastig

Mae dros wyth miliwn tunnell o blastig yn canfod ei ffordd i'r cefnforoedd bob blwyddyn, a rhagwelir, erbyn 2050, y bydd mwy o blastig na physgod yn ein moroedd. Bob blwyddyn, credir bod mwy na miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid morol yn cael eu lladd gan blastig.

Unwaith y bydd yn y moroedd, mae plastig yn aros yno am gannoedd, os nad miloedd, o flynyddoedd, gan effeithio ar y bywyd morol, cynefinoedd a'r arfordir. I wneud y sefyllfa llygredd plastig yn waeth, dros amser, mae darnau mwy o blastig yn diraddio i ddarnau microsgopig llai a elwir yn ficro-blastigion. Fel mae'r enw'n ei awgrymu, mae micro-blastigion yn aml yn rhy fach i lygaid noeth eu gweld ac fe all bywyd morol eu llyncu ac mae hynny'n eu gwneud yn agored i gemegolion gwenwynig. Mae hefyd yn golygu ein bod ni yn bwyta ein gwastraff plastig ein hunain.

Gallwch wneud eich rhan i leihau plastig un-tro drwy: 

  • Defnyddio bagiau aml-ddefnydd pan fyddwch yn siopa
  • Defnyddio poteli y gellir eu hail-lenwi #OneLess
  • Amnewid bagiau te am fagiau te bioddiraddadwy neu de rhydd gyda rhidyll te. 
  • Defnyddio cwpan goffi aml-ddefnydd neu fflasg ar gyfer eich diod poeth
  • Peidiwch â defnyddio gwellt plastig #strawsuck #TheLastStraw
  • Cyfnewid gliter am gliter bioddiraddadwy eco-gyfeillgar: www.ecoglitterfun.com
  • Cael llaeth mewn poteli gan fusnesau bychan lleol, sydd hefyd yn cefnogi ffermwyr lleol
  • Prynu bwyd megis grawnfwyd, reis, pasta mewn swmp a defnyddio cynhwysydd neu fag aml-ddefnydd 
  • Cyfnewid poteli siampŵ plastig am fariau siampŵ 
  • Amnewid brwsys dannedd plastig â brwsys dannedd pren eco-gyfeillgar
  • Cyfnewid 'cotton buds' plastig (un o'r eitemau defnydd un-tro gwaethaf am achosi llygredd) gydag eitemau cyffelyb cardfwrdd neu fambŵ: www.lastobject.com/products/lastswab-basic

#TheLastStraw

01286 679495