Prosiectau Natur am Byth! Natur am byth! yw prosiect blaenllaw Cymru. Mae'n bartneriaeth rhwng naw elusen amgylcheddol a Chyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn gwarchod rhywogaethau dan fygythiad ac yn ailgysylltu'r cyhoedd gyda'u treftadaeth naturiol. Prosiect Morwellt Porthdinllaen Nod y prosiect yw datblygu a gweithredu opsiynau rheoli fydd yn gwella cyflwr y morwellt a chaniatáu i ddefnydd presennol y bae barhau. Y nod yw datblygu a gweithredu'r dewisiadau rheoli hyn mewn partneriaeth llawn gyda rhan-ddeiliaid. Cynllun Bioddiogelwch PLAS Gobaith y prosiect hwn yw datblygu cynllun bioddiogelwch ar gyfer ACA PLAS a llywio cynlluniau bioddiogelwch effeithiol ar gyfer Cymru gyfan. Morwellt Achub CefnforProsiect newydd yn edrych ar adfer morwellt yng Ngogledd Cymru! Nid yw safleoedd adfer wedi'u pennu eto, a dyma lle hoffem gael eich cymorth i nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar y cyd. Hoffem yn fawr hefyd ddysgu sut yr hoffech chi ymgysylltu a chymryd rhan yn y prosiect. Prosiect Lagŵn Morfa GwylltEdrychodd y prosiect yma ar y materion oedd yn cael effaith ar lagŵn Morfa Gwyllt a beth oedd angen i ddatrys y problemau hyn. O Dan y Môr a’i DonnauRoedd O Dan y Môr a'i Donnau yn brosiect a ariennir gan Interreg IIIA, gan weithio mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Fingal yn Iwerddon. Nod y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o gadwraeth morol, a rhannu syniadau Tir a MôrPartneriaeth Llŷn ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sy’n arwain ar brosiect cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrys rhai o’r problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal ar y Tir a’r Môr sy’n amgylchynu’r Penrhyn Llŷn. Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn Mae’r prosiect yma yn edrych ar ddulliau gwahanol o reoli'r môr i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a hyrwyddo adferiad a gwytnwch ecosystemau heb gael effaith andwyol ar bysgotwyr a chymunedau lleol. O'r Mynydd i'r MôrMae prosiect O’r Mynydd i’r Môr yn gweithio ar y cyd gyda phobl leol yr ardal rhwng Afon Dyfi i’r Gogledd ac Afon Rheidiol i’r De ac yn fewndirol hyd nes Llanidloes, gyda’r nod o archwilio cyfleoedd i ddatblygu syniadau ar gyfer rheoli tir a môr yn gydweithredol er mwyn helpu natur a phobl i ffynnu. Cod MorolMae’r prosiect yma wedi creu a gweithredu Cod Morol er mwyn lleihau aflonyddu ar famaliaid morol ac adar. Gwylio Dolffiniaid Cynllun peilot oedd Gwylio Dolffiniaid gyda’r amcan o fonitro cydymffurfiad gyda Côd Morol Gwynedd i helpu ni wybod lle i gyfeirio’n hymdrechion wrth hyrwyddo’r côd. Prosiect Sbwriel CriciethRoedd y prosiect yn anelu i greu ymgyrch hunangynhaliol gyda ffocws ar y gymuned, yn gyrru i gael ateb lleol i’r broblem ysbwriel morol. Prosiect Mamaliaid Morol Enlli Prosiect sy'n anelu at gynyddu ein dealltwriaeth o'r mamaliaid morol o amgylch Ynys Enlli a Phen Llŷn drwy gynyddu cofnodi systematig, defnyddio technoleg drôn, ac ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr.