Gwirfoddoli
Arolygon dyfrgwn, samplu ansawdd dŵr, glanhau traethau, arolygon mamaliaid morol, a phlannu morwellt yw rhai o'r ffyrdd y mae gwirfoddolwyr wedi bod yn rhan o'n gwaith i ddiogelu ACA Pen Llŷn a'r Sarnau dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd rolau gwirfoddolwyr cyfredol yn cael eu rhestru ar y dudalen hon. Mae hefyd yn werth ymuno â'n rhestr gyswllt i glywed am unrhyw gyfleoedd newydd gan gynnwys digwyddiadau un tro fel glanhau traethau a chasglu hadau morwellt.
Anfonwch e-bost atom ar info@penllynarsarnau.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli a chael eich cynnwys ar y rhestr gyswllt.
Cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol:
Llygad y Don - mwynhau treulio amser ar yr arfordir ac eisiau dysgu mwy am y mamaliaid morol yn y dyfroedd o amgylch Pen Llŷn? Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr Llygad y Don i helpu casglu data trwy gynnal arolygon 10 munud mewn lleoliadau penodol o amgylch yr arfordir. Mwy o wybodaeth yma.