Diweddariadau
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ACA Pen Llŷn a'r Sarnau wedi gweithredu nifer fawr o brosiectau i helpu i wella cyflwr y safle. Dyma rai uchafbwyntiau:
- Cyfnod prawf llwyddiannus o ddefnyddio angorau heligol yn harbwr mewnol Porthdinllaen - bydd hyn yn cynorthwyo i leihau effaith angorfeydd ar y morwellt
 - Rhyddhau rhifynnau cyntaf ac ail o'r cylchgrawn O Dan y Don
 - Creu nifer o lwyfannau digidol ar gyfer y safle
 - Yr orsaf #2minutebeachclean gyntaf yng Ngogledd Cymru yn cael ei lletya yn Mwyty Dylan's, Cricieth
 - Cynhyrchu Pecyn Addysg i helpu i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion
 - Gosod paneli ynghylch tarfu ar loi morloi i sicrhau pobl bod y rhan fwyaf o'r lloi bach yn iawn a bod angen i bobl adael llonydd iddynt
 - Gweithredu prosiect ar raddfa'r dalgylch, Tir a Môr, lle roeddem yn edrych ar reoli'r tir a'r môr gyda'i gilydd; roedd y gweithgareddau'n cynnwys:
	
- Treialu cynllun talu am ddeilliannau
 - Gwella rheolaeth cynefinoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
 - Gwella ansawdd dŵr yn nalgylch Daron
 - Ystyried opsiynau ar gyfer adfer a rheoli rhywogaethau, gan gynnwys dyfrgwn a chimychiaid coch
 - Gwella rheolaeth yn yr amgylchedd morol
 
 - Cynhaliom seminar morwellt byd-eang yn 2016 lle’r oedd gwyddonwyr a rheolwyr morol o bedwar ban y byd yn bresennol.
 
Rydym yn anelu at gynhyrchu diweddariadau diddorol a llawn gwybodaeth ar y gwaith a wnawn. Rydym yn darparu'r wybodaeth hon drwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys adroddiadau cynnydd, drwy O Dan y Don, drwy ddiweddariadau e-bost a thrwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Adroddiad Cynnydd PLAS 2016 - 18 
Adroddiad Cynnydd PLAS 2018 - 20