Cynllun Rheolaeth

Mae'r Awdurdodau Perthnasol a'r Grŵp Cyswllt wedi cydweithio i gynhyrchu Cynllun Rheoli ar gyfer yr ACA. Nod y Cynllun Rheoli yw adnabod yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn diogelu nodweddion yr ACA. Er hwylustod, mae'r camau gweithredu wedi’u dwyn ynghyd mewn Cynllun Gweithredu. Mae'r Cynllun Rheoli yn cael ei danategu gan Amcanion Cadwraeth y safle sydd wedi'u cynhyrchu gan CNC.

Mae'r Cynllun Rheoli'n gysylltiedig â Chronfa Ddata Camau Gweithredu CNC, sy'n rhestru camau gweithredu ar gyfer pob ACA yng Nghymru. Mae'r Cynllun Rheoli yn ategu'r gronfa ddata drwy ddarparu cyd-destun a rhesymeg ar gyfer y camau a nodwyd. Yn ogystal, mae'n cynnwys yr holl gamau angenrheidiol i gynnal rheolaeth o'r safle, megis addysg, codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu.

Defnyddir y camau gweithredu o'r Cynllun Gweithredu a'r Gronfa Ddata Camau Gweithredu i greu rhaglen waith ar gyfer y safle ac mae hwn yna'n pennu pa brosiectau sydd eu hangen.

Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o gynhyrchu rhai dogfennau safle ychwanegol fydd yn ein helpu i roi cipolwg o reolaeth y safle a'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer y safle. 

I weld ddogfennau rheoli PLAS cliciwch ar Cyhoeddiadau

01286 679495