Croeso i Pen Llŷn a’r Sarnau
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
Yma cewch hyd i wybodaeth am Ben Llŷn a’r Sarnau: lle mae o, pam fod o’n cael ei warchod, pam ei fod yn lle arbennig a llawer mwy! Gallwch hefyd canfod sut allwch helpu o newidiadau bach yn eich bywyd dyddiol i gofnodi'r hyn a welwch neu beth am ymuno â ni mewn digwyddiad?
Hefyd rydym yn gobeithio cadw chi’n gyfoes gyda beth sydd yn digwydd yn y safle - cadwch lygaid allan am y newyddion diweddaraf ar draws ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr O Dan y Don!

Cefndir
Mae’r moroedd o amgylch Cymru yn llawn creaduriaid lliwgar a chyffrous. Maent mor bwysig, mae rhannau helaeth o arfordir Cymru wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau). Un o’r ACAau hyn yw Pen Llŷn a’r Sarnau.
Cymryd Rhan
A fyddech chi’n hoffi cymryd rhan mewn helpu i warchod eich amgylchedd morol lleol? Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o newidiadau bychain yn eich bywyd dyddiol all gael effaith gadarnhaol iawn ar ein hamgylchedd i gymryd rhan fwy gweithgar drwy ymuno â digwyddiadau a phrosiectau ynghylch ein bywyd gwyllt morol.
Prosiectau Diweddaraf
Cornel Plant
Cornel y Plant yw'r lle i ddod o hyd i lwythi o weithgareddau a gwybodaeth am y byd naturiol hynod ddiddorol sydd o'n gwmpas
Profwch eich sgiliau a threuliwch ychydig o amser yn chwarae ein gêm cof ar-lein, neu cymerwch gip olwg ar ein Pecyn Addysg i ddysgu mwy am y creaduriaid dirgel o dan y don!