Nodweddion cadwraeth
Mae’r term nodwedd gadwraeth yn cyfeirio at gynefin neu rywogaeth benodol, a restrir yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y mae’r ACA wedi cael ei dewis ar eu cyfer. Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ddeuddeg nodwedd gadwraeth. Cynefinoedd yw naw o’r rhain, a rhywogaethau yw’r tair nodwedd arall.
Ystyrir ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o’r ardaloedd gorau yn y DU ar gyfer yr isod, o ran y cynefinoedd a’r rhywogaethau cymwys hyn.
- Riffiau
 - Cilfachau a baeau mawr bas
 - Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio rhywfaint â dŵr môr bob amser
 - Aberoedd
 - Lagynau arfordirol
 
Gan gefnogi presenoldeb allweddol yr hyn a ganlyn:
- Dolydd Heli’r Iwerydd (Glauco-Puccinellietalia maritimae)
 - Salicornia a phlanhigion unflwydd eraill sy’n sefydlu ar laid a thywod
 - Traethellau llaid a thywod nad ydynt yn cael eu gorchuddio â dŵr môr ar adeg y trai
 - Ogofâu môr sydd dan y dŵr neu yn rhannol dan y dŵr
 - Halichoerus grypus – morlo llwyd
 - Lutra lutra – dyfrgi
 - Tursiops truncatus – dolffin trwynbwl.
 
Mae’n bosib cael gwybodaeth am y rhywogaethau a’r cynefinoedd uchod trwy ddefnyddio’r linciau uchod. Am fwy o wybodaeth ac i gael gweld y cyfeiriadau a ddefnyddiwyd edrychwch ar Cyhoeddiadau’r ACA.