Pethau syml allwch chi neud i helpu
Mae sawl peth y gallwch ei wneud er mwyn cadw’n cefnforoedd a’n bywyd gwyllt yn ddiogel. Gall newidiadau bychan yn eich bywyd o ddydd i ddydd, fod o gymorth mawr.
Dyma rai syniadau ar sut y gallech fod o gymorth:
- Rhoi sbwriel yn y bin
 - Ailgylchu pan fo modd
 - Prynu eitemau sydd â llai o ddeunydd lapio amdanynt
 - Ailddefnyddio bagiau plastig neu beidio â’u defnyddio o gwbl
 - Rhoi olew coginio yn y bin, yn hytrach na’i dywallt i lawr y sinc
 - Arbed ynni
	
- Prynu bylbiau golau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
 - Peidio â gorlenwi’r tegell
 - Troi goleuadau a theclynnau trydanol i ffwrdd pan nad ydych eu hangen
 - Peidio â gadael pethau megis eich teledu â’ch cyfrifiadur ymlaen heb fod angen
 - Sychu eich dillad yn naturiol, yn hytrach na thrwy ddefnyddio peiriant sychu dillad
 
 - Plannu coeden a pheidio â gwaredu gwrychoedd - Mae coed a phlanhigion yn darparu bwyd, lloches i nifer o rywogaethau ac yn cynhyrchu ocsigen. Maent yn cynorthwyo i ddarparu aer glanach a gwaredu CO2 o'r atmosffer sy'n cynorthwyo i daclo newid hinsawdd.
 - Ymunwch ag ymgyrch glanhau traeth leol neu ewch ati i gynnal eich #twominutebeachclean eich hun pan fyddwch ar draeth.
 
Am gopi, cysylltwch â’r Swyddog ACA.
  ![]()