Pecyn Addysg Tir a Môr
Diben pecyn addysg Tir a Môr yw eich helpu i ddod ag amgylchedd naturiol Cymru yn fyw yn eich ystafell ddosbarth.
Bydd gweithio drwy'r gweithgareddau hyn yn mynd â chi a'ch dosbarth ar daith o gopaon mynyddoedd uchaf Cymru, drwy rostiroedd, tiroedd amaethyddol, coetiroedd, ar hyd ceunentydd ucheldirol serth, i lawr rhaeadrau i droadau llydan ac allan i'r aberoedd a'r morlinau, ac ymhellach oddi ar ynysoedd anhygoel Cymru. Ar hyd y ffordd byddwch yn dysgu am rai o'r rhywogaethau arbennig sydd wedi ymgartrefu yn yr amgylcheddau hyn, ynghyd â'r grymoedd pwerus sy'n effeithio ar ein cynefinoedd yma yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Mae gweithwyr proffesiynol ar draws sector amgylcheddol Cymru wedi cyfuno eu harbenigedd i helpu i greu'r gweithgareddau craff a diddorol hyn, sy'n berthnasol i nifer o agweddau ar y cwricwlwm. Maent wedi'u rhannu'n fras i bynciau yn ymwneud â'r tir, dalgylchoedd afonydd, a'r môr, ac mae'r pecyn yn gymorth i egluro cysyniadau ecolegol cymhleth gan ddefnyddio esiamplau bywyd lleol go iawn. Mae'r pynciau dan sylw hefyd yn gymorth i ddangos y cysylltiad rhwng ein holl dirweddau a sut y gall un digwyddiad effeithio ar 'iechyd' y gweddill.
Mae llyfrynnau ar gael ar gyfer y tair thema eang, a gellir eu lawr-lwytho yn eu cyfanrwydd yma:
Gellir rhannu pob llyfryn ymhellach i bynciau. Gallwch bori'r pynciau a chael mynediad i'r gweithgareddau, taflenni gwaith i’w hargraffu ac adnoddau ychwanegol yma:
Mae yna adnoddau i helpu chi gwneud y mwyaf o’r pecyn gan gynnwys canllawiau ‘sut I' yma:
Gallwch arddangos poster Tir a Môr yn yr ystafell ddosbarth fel adnodd gafaelgar i’ch atgoffa o’r pecyn. Lawr lwythwch y poster yma:
