Prosiect Mamaliaid Morol Enlli
Mae Prosiect Mamaliaid Morol Enlli yn bartneriaeth rhwng Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau, gyda chydweithrediad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwraeth Morfilod a Dolffiniaid.
Mae Ynys Enlli yng nghanol ardal bwysig ar gyfer mamaliaid morol. Mae llamhidydd harbwr, dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso, dolffiniaid cyffredin a morfilod Minke i gyd yn defnyddio'r ardal.
Mae'r ynys wedi'i hamgylchynu gan ACA Morol Gorllewin Cymru a ddynodwyd ar gyfer llamhidydd harbwr, ac ACA Pen Llŷn a'r Sarnau y mae dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd yn nodweddion iddo. Mae'r morloi llwyd hefyd yn nodwedd o ddynodiad Gwarchodfa Natur Genedlaethol Enlli. Mae dolffiniaid Risso yn cael eu gweld yn rheolaidd yn yr ardal sy'n anarferol gan eu bod fel arfer i'w cael yn bellach i ffwrdd o’r arfordir.
Nod y prosiect yw astudio'r mamaliaid morol i ddarparu gwybodaeth glir am eu statws, ac i ddeall sut a pham maen nhw'n defnyddio dyfroedd yr ardal. Bydd hyn yn llywio mesurau cadwraeth i amddiffyn y rhywogaethau pwysig hyn yn well.
Mae'r prosiect yn -
Cynyddu cofnodi systematig o famaliaid morol o amgylch Ynys Enlli a Phen Llŷn. Mae Swyddog Gwyddoniaeth wedi'i leoli ar yr ynys yn ystod misoedd yr haf a bydd tîm o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi ar y tir mawr. Bydd pawb yn defnyddio methodoleg gwyddoniaeth dinasyddion – ‘Shorewatch’ Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid i adeiladu set ddata hirdymor a gosod safon newydd ar gyfer cofnodi systematig yn yr ardal.
Defnyddio technoleg drôn i dynnu lluniau o ddolffiniaid Risso. Ychydig iawn sy'n hysbys am ddosbarthiad a chylch bywyd y dolffiniaid hyn. Bydd y delweddau a gasglwyd yn cyfrannu at gatalog o unigolion a nodir gan y patrymau unigryw ar eu esgyll dorsal, gan helpu i gynyddu ein dealltwriaeth.
Ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr ardal ar gyfer ystod o rywogaethau mamaliaid morol, y ffactorau sy'n effeithio arnynt, a sut y gallent gymryd rhan mewn ymdrechion cadwraeth.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Gwylfa Adar a Maes Enlli ac ACA Pen Llŷn a'r Sarnau gyda chydweithrediad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwraeth Morfilod a Dolffiniaid. Ariennir y prosiect gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Llygad y Don
Ar arfordir Llŷn mae gennym tri safle Llygad y Don (Shorewatch)-
• Porthdinllaen, Morfa Nefyn
• Mynydd Mawr, Uwchmynydd
• Bwlchtocyn, Abersoch
Mae gennym dîm o wirfoddolwyr hyfforddedig sy'n cynnal arolygon rheolaidd o'r safleoedd hyn i gyfrannu data i'r prosiect a gwella ein dealltwriaeth o sut mae mamaliaid morol yn defnyddio ein dyfroedd.
Rydym bob amser yn chwilio am bobl newydd i ymuno â'r tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am famaliaid morol a threulio amser ar yr arfordir, anfonwch e-bost atom am fwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan - info@penllynarsarnau.co.uk
Shorewatch
On mainland Llŷn we have three Shorewatch sites –
• Porthdinllaen, Morfa Nefyn
• Mynydd Mawr, Uwchmynydd
• Bwlchtocyn, Abersoch
We have a team of trained volunteers carrying out regular surveys from these sites to contribute data to the project and improve our understanding of how marine mammals are using our waters.
We are always looking for new people to join the team. If you’re interested in learning more about marine mammals and spending time at the coast send us an email for more information on how you can get involved- info@penllynarsarnau.co.uk