Morfeydd Heli

Morfeydd heli

Mae morfeydd heli yn gorwedd rhwng y tir a'r môr, yn llythrennol yn pontio rhwng y ddau gynefin: y dŵr ar un ochr a'r tir sych ar yr ochr arall. O ganlyniad, mae’n gynefin unigryw iawn, gan fod dŵr môr yn gorchuddio’r tir ddwywaith y dydd. Maent yn nodweddiadol o fannau cysgodol ar yr arfordir, sef morydau neu aberoedd, afonydd, a phorthladdoedd, lle mae mannau cysgodol oddi wrth nerth y tonnau.

Lawrlwythwch yr adnodd llawn ar gyfer morfeydd heli yma. Dyma lle byddwch yn dod o hyd i gyflwyniad i morfeydd heli a throsolwg o weithgareddau sy'n amlinellu deilliannau dysgu a sgiliau fydd yn cael eu datblygu ar gyfer pob gweithgaredd. Isod mae -

  • Canllawiau gweithgareddau sy'n rhoi arweiniad ar sut i gwblhau pob gweithgaredd gyda dysgwyr.
  • Cyflwyniadau PowerPoint wedi'u cynllunio i arwain dysgwyr drwy'r gweithgaredd.
  • Taflenni gwaith y gellir eu hargraffu i'w rhannu gyda dysgwyr.
  • Dolenni i adnoddau ar-lein i gyd-fynd â'r gweithgareddau.

01286 679495