Brain Coesgoch
Mae'r Frân Goesgoch yn aelod o deulu hynod o ddeallus y Corvidae, sy'n cynnwys brain a jac-y-dos. Maent yn adar sgleiniog du gyda phigau a thraed coch/oren llachar. Eu cynefin hanfodol yw rhostiroedd arfordirol, ac mae niferoedd y frân goesgoch wedi lleihau yn unol â'r dirywiad i'r cynefin prin hwn. Bellach, dim ond yng Nghernyw, rhai o ynysoedd yr Alban a rhannau o arfordir Cymru y gellir eu canfod. Mae Pen Llŷn ac arfordir gogleddol Ynys Môn yn lleoedd da i'w gweld.
Lawr lwythwch y pwnc Brain Coesgoch yn ei gyfanrwydd yma or access individual activities, worksheets or resources below.